👋 Ni yw Criw Celf y Gorllewin.

Rydyn ni’n cynnal dosbarthiadau meistr i ddatblygu sgiliau plant a phobl ifainc yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sydd â doniau artistig.

Cael Gwybod Mwy

Dosbarthiadau meistr sy’n agos i chi.

Mae Criw Celf y Gorllewin yn rhoi’r cyfle i blant a phobl ifainc i ddatblygu eu sgiliau creadigol drwy ein dosbarthiadau meistr. Mae pob sir yn cynnig rhaglen bwrpasol dan arweiniad artistiaid ac addysgwyr proffesiynol. Defnyddiwch y dolenni isod i ddarganfod pa raglen sydd ar gael yn eich ardal chi.

Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Ar gyfer pobl ifainc sy’n byw yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot.

Sir Gaerfyrddin

Ar gyfer pobl ifainc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin

Sir Benfro

Ar gyfer pobl ifainc sy’n byw yn Sir Benfro.

Dosbarthiadau Meistr

Sesiynau sy’n cael eu dysgu dan arweiniad artistiaid ac addysgwyr proffesiynol yw dosbarthiadau meistr i ddatblygu sgiliau plant a phobl ifainc sydd â doniau artistig. Byddant yn edrych ar dechnegau newydd ac yn elwa ar wybodaeth ac offer proffesiynol.

Gweld Dosbarthiadau Meistr y Gorffennol

Testimonials

Roedd y gweithdai yn y prifysgolion yn gymaint o hwyl ac yn hynod ddefnyddiol wrth helpu i benderfynu pa brifysgol i fynd iddi.

Un o gyfranogwyr Codi’r Bar

Y peth gorau am Griw Celf yw gwneud ffrindiau newydd! Ro’n i hefyd yn dwlu ar ba mor gyfeillgar yw pawb. Amgylchedd gwych yw e!

Un o gyfranogwyr Criw Celf Uwchradd

Ro’n i wrth fy modd yn dysgu llwythi o sgiliau artistig newydd ro’n i heb eu gwneud o’r blaen – a dw i wedi gwneud ffrindiau newydd.

Un o gyfranogwyr Portffolio