Portffolio 2018.
Gweithiwr creadigol technegol yw Tim Stokes sy’n cynnal amrywiaeth o wahanol brosiectau gan weithio gydag artistiaid a dylunwyr eraill. Yn y gorffennol, mae wedi gweithio fel technegydd a darlithydd ar draws ystod o gyrsiau arbenigol am sawl blwyddyn yng Ngholeg Celf Abertawe PCDDS, gan weithio ar y cwrs sylfaen mewn Celf a Dylunio am dros ddeng mlynedd. Ochr yn ochr â hyn, mae wedi ymwneud â sawl prosiect creadigol, cymunedol a chysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol yn lleol ac yn rhyngwladol.
Mae Tim yn dechrau drwy gyflwyno hanes animeiddio a’r gwahanol ffilmiau sydd wedi chwyldroi’r diwydiant. Jason and the Argonauts oedd y ffilm gyntaf a gyfunodd ddigwydd byw ag animeiddio stop-symudiad. Eglurodd Tim mai stop animeiddio yw’r hyn y bydd y cyfranogwyr yn arbrofi ag e heddiw. Fodd bynnag, Star Wars oedd y ffilm a chwyldrodd bopeth – sbardunodd effeithiau arbennig y ffilm yma yr animeiddiadau a ddefnyddiwyd i greu ffilmiau fel Toy Story. Dangosir holl gyflymder datblygiadau mewn technegau animeiddio gan y ffaith bod hyd yn oed yr arddull yma a fu unwaith yn arloesol bellach i’w weld yn hen ffasiwn. Er iddo fod yn addas ar gyfer sgiliau’r adeg honno rydyn ni wedi dod lawer ymhellach ac mae’r animeiddiadau wedi dod yn fwy realistig. Er enghraifft, aeth yr animeiddwyr a weithiodd ar Jurassic Park ati i adeiladu sgerbydau’r deinosoriaid. O adeiladu ar y sgerbydau hyn, roeddent yn gallu creu haenau’r cyhyrau a’r croen sy’n gadael i’r creaduriaid symud fel y dylent. Proses hirfaith yw Animeiddio 3D; fodd bynnag, yr hyn y bydd y myfyrwyr yn edrych arno heddiw yw stop animeiddio. Proses hir yw hon o hyd ond un sy’n llai cymhleth o lawer ac yn haws ei gwneud yn yr amser sydd ganddyn nhw.
Mae Tim yn defnyddio’r ffilm anime glasurol Spirited Away fel enghraifft o beth y gellir ei wneud wrth ddefnyddio’r dull yma. Mae Spirited Away hefyd yn ddiddorol oherwydd mai’r elfennau gweledol sy’n gyrru’r stori yn hytrach na fel arall. Dyma’r arddull y bydd cyfranogwyr yn gweithio ynddo heddiw, arddull a fydd yn gadael i’w harluniau fod yn sail i’w hanimeiddiadau.
‘Stumiau’ bach fydd yr animeiddiadau hyn a fydd yn morffio o’r naill gam i’r llall. Mae Tim yn gofyn i’r cyfranogwyr feddwl amdanynt bron fel memynnau neu GIFs ac ystyried sut rydyn ni’n byw mewn byd sy’n cyfathrebu’n fwy drwy ddelweddau na brawddegau.
Y dasg gyntaf yw cymryd dwy funud i dynnu hunanbortread sydyn gyda siarcol. Mae Tim yn dweud wrth y myfyrwyr am osgoi arlliwio a bod yn ddychmygus a chwareus. Dilynir yr ymarferiad hwn gydag enghraifft o ba mor hawdd y mae adnabod rhai cymeriadau animeiddiedig: gofynnir i’r myfyrwyr dynnu llun sydyn o gymeriad heb ei enwi a rhaid i’r myfyrwyr eraill weld a ydynt yn nabod y cymeriad. Defnyddir hyn i ddangos bod symlrwydd yn hollbwysig wrth greu cymeriadau adnabyddus.
Wedyn fe’u rhennir yn grwpiau gan baentio eu cymeriadau eu hunain ar fwrdd MDF. Yna, mae’r grwpiau’n cyfnewid eu byrddau gan ychwanegu at baentiadau ei gilydd. Bydd y cymeriadau’n ffurfio sail eu “stumiau” yn nes ymlaen yn y dydd.
Yna cyflwynir yr offer Mac i’r myfyrwyr sy’n ymarfer y grefft o arlunio digidol. Yna, byddant yn creu eu emojis/stumiau digidol bach eu hunain yn Photoshop. Dim ond eiliadau y mae’r cyfresi yma’n para felly gofynnir i’r myfyrwyr ystyried symudiadau bach ac ‘ansawdd dros nifer’. Canlyniad y diwrnod yw rhai animeiddiadau digon rhyfedd a rhyfeddol. Bydd y rhain yn cael eu rhoi at ei gilydd mewn dolen i’w gweld yn eu harddangosfa derfynol.





