Codi’r Bar 2018.

Mae’r gweithdy heddiw, a gynhelir gan Artist Preswyl PCDDS a’r ffotograffydd proffesiynol Dafydd Williams, wedi’i drefnu fel diwrnod dan gyfarwyddyd y cyfranogwyr eu hunain. Mae’r myfyrwyr wedi cael caniatâd i ddefnyddio Stiwdio Ffotograffiaeth y Brifysgol a’i hoffer arbenigol.

Anffurfiol yw awyrgylch y sesiwn ar y dechrau; mae’r radio ymlaen ac mae’r myfyrwyr yn edrych ar y crysau-T y maent wedi’u sgrinargraffu gyda Bella Kerr a Tim Stokes yn nosbarth meistr cyntaf Codi’r Bar.

Mae Daf yn ei gyflwyno ei hun gan ddangos canlyniadau posibl y saethiadau stiwdio, gan helpu’r myfyrwyr i gael syniadau ynghylch beth y gellir ei wneud gyda’r offer. Mae’n annog y grŵp i sgwrsio, cyfranogi a thrafod syniadau ac i gymryd yr awenau.

Ar ôl arbrofi gyda gwahanol stumiau a chynhesu o flaen a’r tu ôl i’r camera, mae’r grŵp yn gofyn am gael defnyddio’r peiriant gwynt i chwythu darnau mân o bapur newydd ar draws y model sy’n sefyll gyda lliwiau wedi’u taflunio ar ei thraws.

Mae’r grŵp yn edrych ar lawer o saethiadau sydd wedi’u ‘gosod’ ond mae elfen fawr o hap a damwain yn perthyn iddynt hefyd. Maent yn symud o daflu papur newydd i daflu eu crysau-T sgrin-argraffedig yr un pryd. Ar ddiwedd y dydd, mae’r grŵp yn edrych ar y ffotograffau ar y sgrîn fawr gan asesu beth maent wedi’i wneud. Maent i gyd yn gofyn am gopïau ar gyfer eu cyfryngau cymdeithasol a’u ffolderi gwaith coleg/portffolio.

Leave a Reply