Codi’r Bar 2018.
Artist gwydr lliw proffesiynol yw Lisa Burkl. Hyfforddodd yn yr Adran Gwydr Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe PCDDS.
Dechreuodd Lisa drwy esbonio briff y diwrnod a sut y byddai’r myfyrwyr yn gweithio gyda’r thema Eiconau’r Oes Fodern. Rhannwyd y grŵp yn ddau dîm a gofynnwyd iddynt nodi ar fwrdd beth sy’n eiconig yn eu tyb nhw. Ar ôl yr ymarferiad torri ias, bu’n rhaid i’r myfyrwyr ludweithio delweddau wedi’u torri neu’u rhwygo o gylchgronau ar fwrdd parod – gan gadw’r thema mewn cof. Y byrddau hyn wedyn fu’n ffurfio’r sail ar gyfer eu darnau mosaigau ‘gwrthdrawiad’.
Yn y prynhawn bu’r myfyrwyr yn gweithio yn y stiwdio wydr. Cafwyd arddangosiad o wydr gwydn yn cael ei ddryllio.
Math o wydr diogelwch yw gwydr gwydn neu dymeredig sy’n cael ei brosesu gan driniaethau thermol neu gemegol i gynyddu’i gryfder o’i gymharu â gwydr arferol. Mae tymheru’n achosi cywasgiad ar y tu allan a thensiwn ar y tu mewn. Mae straeniau o’r fath yn peri i’r gwydr, o gael ei dorri, friwsioni’n ronynnau bach yn hytrach na dryllio’n deilchion danheddog fel y gwna gwydr plât (a adwaenir hefyd fel gwydr caled). Mae’r darnau gronynnog yn llai tebygol o achosi anaf.
Oherwydd ei natur ddiogel a’i gryfder, defnyddir gwydr gwydn at sawl diben heriol, gan gynnwys ffenestri cerbydau i deithwyr, drysau cawodydd, byrddau a drysau gwydr pensaernïol, hambyrddau oergelloedd, amddiffynwyr sgriniau ffonau symudol, fel cydran mewn gwydr atal bwledi, ar gyfer masgiau nofwyr tanddwr a gwahanol fathau o blatiau a llestri coginio.
Yn yr achos yma, defnyddiwyd y darnau drylliedig i greu gwaith celf.
Casglodd y myfyrwyr deilchion i orchuddio eu gludwaith ar y byrddau gan dreulio’r prynhawn yn gludio darnau i’w lle.





