Codi’r Bar 2018.
Artist sy’n byw yn Abertawe yw Mary Passmore ac yn ddarlithydd llawn-amser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Mae Mary yn dechrau’r diwrnod drwy fynd drwy amryw o ymarferion arlunio gyda’r cyfranogwyr i’w cael i ymlacio. Roedd yr ymarferion hyn yn cynnwys arlunio llinellau di-dor a braslunio’r ffigwr gyda’r papur wedi’i orchuddio. Bwriad y gweithgareddau hyn yw ennyn hyder y myfyrwyr wrth arsylwi a’u hyfforddi i weld beth sydd o’u blaenau yn hytrach na’r papur yn unig. Bu Mary hefyd yn annog y cyfranogwyr i ‘gamu’n ôl’ o’u lluniau gan eu galluogi i gael gwell ymdeimlad â phersbectif.
Unwaith i’r cyfranogwyr ymgyfarwyddo â dulliau’r stiwdio fywluniadu, aethant ati i ddechrau cyfres o astudiaethau 20 munud. Mae Mary yn gofyn bod yr astudiaethau hyn yn canolbwyntio ar amrywiaeth o ddisgyblaethau. Ar gyfer y llun cyntaf, mae Mary yn gofyn i’r myfyrwyr ystyried mesuriad a chymhareb; er enghraifft, yn fras, 6 phen sy’n gallu ffitio i’r corff. Mae hyn yn galluogi’r cyfranogwyr i gael syniad clir o ran cymesuredd. Gofynnodd yr astudiaeth nesaf i’r myfyrwyr dapio darn o siarcol wrth ben brwsh paent er mwyn gorfodi’r grŵp i sefyll yn ôl o’u lluniau. Yna, bydd myfyrwyr yn cyflwyno lliw ac yn defnyddio pensiliau dyfrlliw i greu marciau trawiadol a chanolbwyntio ar yr arlliwiau lle mae’r ‘golau’n taro’r corff’.
Yna, mae detholiad o’r arluniau 20 munud yn cael eu trosglwyddo i sgriniau ac mae ail ner y diwrnod yn gweld y grŵp yn sgrin-argraffu a gosod eu delweddau’n haenau.