Criw Celf Uwchradd 2019

Cynhaliwyd y dosbarth meistr yma i’r Criw Celf Uwchradd ar Gampws Llwyn y Bryn, Coleg Gŵyr Abertawe, dan arweiniad Coral Williams a Katherine Lewis.

Dangosir gwaith cyn-fyfyriwr i’r grŵp fel enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda deunyddiau cyfyngedig fel cardbord wedi’i ailgylchu a thâp. Rhannwyd pawb yn ddau grŵp llai gan dderbyn enw un o adeiladau eiconig Abertawe, gyda briff i drafod dewisiadau ac ailgreu’r adeiladau gan ddefnyddio’r deunyddiau cyfyngedig a ddarparwyd.