Portffolio 2018

Dechreuodd y diwrnod gyda ‘disgo tawel’ a gynhaliwyd yn adran Sylfaen PCDDS mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian. Bwriad y gweithgaredd oedd llacio sgiliau arlunio – drwy wisgo cyrn pen oedd wedi’u tiwnio i amrywiaeth o wahanol sianelau cerddoriaeth, anogwyd y myfyrwyr i arlunio unrhyw beth a ddeuai i’r meddwl. Yna bu Bella a Tim yn arwain y grŵp drwy gyfres o ymarferion arlunio.

Cyflwynodd Tim y ffilm Psycho gan dynnu sylw arbennig at yr olygfa yn y gawod. Anogodd bawb i ystyried sut roedd yr olygfa wedi’i hadeiladu a’r syniad o ‘fframiau’. Pwysleisiodd Tim bwysigrwydd sain a sut mae’n gyfrifol am ddal y lluniau llonydd (neu fframiau) unigol hyn at ei gilydd.

Rhennir y dosbarth yn ddau grŵp. Mae grŵp Tim yn dechrau gyda gweithgaredd animeiddio byr. Mae hwn yn seiliedig ar y portreadau a arluniwyd ynghynt yn y diwrnod. Anogir myfyrwyr Bella i drin hunluniau wedi’u hargraffu gan ddefnyddio pen/inc/siswrn. Gan ddefnyddio fideo Justin Bieber Where are you now? i gyfeirio ato, cyfunir y ddau weithgaredd. Mae’r cyfranogwyr yn dewis ffilm fer ddwy funud sydd, yn eu barn nhw, yn eu hadlewyrchu nhw eu hunain. Yna, maen nhw’n tocio hon i 20 eiliad gan ddefnyddio meddalwedd Premier. Gan weithio ar un ffrâm yr eiliad, mae 20 o fframiau wedyn yn cael eu hargraffu a’u hailwampio gan ddefnyddio technegau roeddent wedi’u hymarfer yn sesiwn Bella ynghynt. Wedyn, mae’r rhain yn cael eu hail-sganio a’u cynhyrchu fel ffilmiau byr sydd wedi’u ‘hadfeddiannu’.