Portffolio 2018.

Mae Chris yn dechrau drwy esbonio ei waith fel artist/darlunydd, gan bwysleisio sut mae’n gallu cynnwys y ddau. Mae’n sôn am elfennau ymarferol a rhyddid darlunio a sut y gall fynd â chi i lawr amryw o lwybrau. Mae Chris yn egluro bod ei waith yn cynnwys comisiynau ac addysgu a’i fod wedi dylunio cloriau CD, animeiddiadau a llyfrau. Mae ei waith hefyd yn goferu drosodd i ddisgyblaethau eraill megis graffeg, celfyddyd gain a ffotograffiaeth. Mae Chris yn awyddus i ddangos y gall darlunio fod yn llawer iawn mwy na phen ac inc. Yn ddylanwad arno mae gweithiau Tim Minchin ac Edward Gorey y bu eu harddull yn ddylanwad ar Tim Burton ac mae’n annog y cyfranogwyr i ystyried beth y gallai eu darluniau fod yn ymateb iddo, e.e. barddoniaeth. Bydd cyfranogwyr yn edrych ar y dull adrodd stori a’r berthynas sydd gan ddarlunio â naratif.

Y dasg gyntaf yw tynnu llun o’u cyd-gyfranogwyr fel ymarferiad i lacio eu sgiliau arlunio. Bydd y cyfranogwyr yn cychwyn arni’n sydyn a llawer un yn cymryd ei amser wrth greu rhai sylwadau hynod fanwl. Mae llawer o fyfyrwyr yn astudio “bywyd llonydd” yn yr ysgol ac mae Chris yn gwneud y cysylltiad â’i waith darluniadol yntau. Mae’n pwysleisio sut mae’r dasg syml yma’n rhoi’r sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud fel artistiaid. Ar ôl edrych o gwmpas yr ystafell ar y portreadau sy’n cael eu creu, medd Chris, “Mae llawer ohonoch chi’n cynhyrchu gwaith gwirioneddol dda. Chwarae teg i chi wir!”

Mae’r myfyrwyr wedyn yn symud ymlaen at ail dasg y dydd sy’n gofyn iddynt ddewis cymeriad, gweithred a lleoliad o dair het. Yna gofynnwyd i’r cyfranogwyr lunio stori o’r rhain a fydd yn cael ei rhoi ar botel gan ddefnyddio pens cerameg a sharpies. Darganfu llawer o’r cyfranogwyr ffyrdd newydd o ddefnyddio’r deunyddiau hyn, er enghraifft, mae’r pens cerameg o’u gwasgu i lawr yn ddigon caled yn creu diferion inc lliwgar a ddefnyddiwyd ganddynt i gyfoethogi eu darluniau.

Daeth y straeon yma’n ddyluniadau manwl iawn a meddylgar. Mae Chris yn dweud hanes y dull hwn o adrodd stori o fasys yr Hen Roeg i ddehongliadau modern o Grayson Perry. Unwaith i’r straeon hyn gael eu cwblhau ar eu poteli, dechreuodd y cyfranogwyr fersiwn gydweithredol drwy gylchredeg un botel gan ychwanegu ati yn eu tro. Y canlyniad oedd rhai darluniau hardd a lliwgar.