Criw Celf Uwchradd 2019
Artist-gwneuthurydd a darlithydd yw Cath Brown ar y cyrsiau gradd mewn Crefftau Dylunio a Gwydr yng Ngholeg Celf Abertawe PCDDS. Technegydd/dangosydd yw Colin Telford yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae’r dosbarth meistr hwn yn defnyddio’r cyfleusterau yn yr Adran Wydr ar gampws Heol Alecsandra.
Rhoddir disg gwydr parod i’r grŵp ac ychydig o Fablon – ffilm ludiog – i’w osod dros eu disgiau gwydr. Yna gofynnir iddynt dynnu cynllun a thorri ymaith ddarnau o’r ffilm i greu mannau ar y gwydr y gellir eu sgwrio â thywod. Mae’r Fablon yn gweithio fel haen wrthsafol ac ar ôl sgwrio â thywod, datgelir y cynllun.
Unwaith iddynt gwblhau’r cam yma, dewisodd y myfyrwyr ddarnau o wydr o wahanol liw oedd wedi’u tanio mewn odyn i dalgrynnu’r ymylon. Buont yn trefnu a gludio’r darnau gwydr hyn wrth eu disgiau gwydr i gyfoethogi’r cynllun. Mae’r disgiau hyn wedyn yn cael eu mowntio ar flwch archwilio a’u troelli i greu effaith galeidosgop.
Bu’r myfyrwyr yn gweithio mewn parau i dynnu ffotograffau a ffilmio pob effaith galeidosgop. Dewiswyd y ffilm orau gan ennill gwobr siocledaidd i’r pâr buddugol!





