Portffolio 2018.

Artist a gwneuthurydd-ddylunydd yw Anna Lewis sy’n byw yng Nghymru ac sy’n gweithio ym maes gemwaith cyfoes a gwrthrychau ffasiwn. Mae Anna hefyd yn cyfuno ei syniadau â ffotograffiaeth a ffilm.

Mae Anna yn dechrau drwy sôn am sut mae dillad a defnyddiau’n rhan o’n hiaith bob dydd. Wedyn, mae’n trafod y syniad o’r ‘gwrthrych ffasiwn‘. Rhaid i hwn fod yn ymarferol yn ogystal â cherfluniol. Mae Anna yn annog cyfranogwyr i feddwl y tu hwnt i’r ffiniau arferol ac ystyried sut gallai’r gwrthrych hwn gael ei wisgo. Mae’n defnyddio creadigaethau dramatig y dylunydd ffasiwn Alexander Mcqueen a’i gwaith ei hun fel enghreifftiau i ysbrydoli’r cyfranogwyr. Mae’r enghreifftiau hyn yn aml yn rhwystro’r corff ac yn defnyddio haenau a chydrannau i adeiladu ffurf haniaethol.

Mae tasgau’r dydd wedi’u llunio o gwmpas y cyfranogwyr yn creu siapiau haniaethol a fydd yn sail i’w gwrthrych ffasiwn. Gwneir y gwrthrychau hyn o Rattan a’u ffurfio’n strwythurau a ffurfiau gan ddefnyddio clymau ceblau a phegiau. Unwaith iddynt gael eu gosod bydd y gwrthrychau’n dod yn arluniau tri dimensiwn ac fe’u harddangosir gyda’i gilydd fel darn parhaus yn arddangosfa Portffolio.