Fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl, un o’r pryderon amgylcheddol mwyaf ar hyn o bryd
yw’r gostyngiad yn nifer y gwenyn. Mae fy mhrosiect yn ymwneud â chodi
ymwybyddiaeth o greu’r amgylchedd delfrydol i wenyn drwy blannu blodau. Er mwyn
hybu’r syniad yma, dw i wedi creu cyfres o ddarnau clai addurnol, gyda deunyddiau
botanegol o blanhigion a blodau sy’n denu gwenyn yn benodol wedi’u gwasgu
iddynt.

Mi wnes i gyfanswm o tuag ugain o addurniadau ceramig a dw i’n fodlon iawn gyda’r
canlyniadau. Maent yn dlws ac yn gywrain, fel y blodau eu hunain. Dw i’n arbennig o
hoff o’r rhai a baentiais. Er nad yw lliw’r paent yn aros yn gyson a gwastad ar y clai,
oherwydd lleithder y clai, dw i’n hoffi gwead a gorffeniad ‘blêr’ y paent. Dw i hefyd yn
hoffi’r ffordd y mae’r addurniadau bron fel ffosilau, elfen sy’n taro deuddeg yn
berffaith â chysyniad fy ngwaith gan ei bod yn ychwanegu at natur argyfyngus y
sefyllfa, gyda rhywogaethau, yn blanhigion ac yn anifeiliaid, yn marw’n frawychus o
gyflym ac yn dod yn ffosilau.

Gwirioneddol wych oedd derbyn cyfle i gael gofod wedi’i neilltuo i’m diddordeb
artistig ysol. Mi ellais i ddatblygu sgiliau gwneud cerameg, cyfrwng oedd yn hollol
ddiarth i mi a dw i’n bwriadu mynd â’r profiad yma rhagddo gyda fi ar gyfer fy ngradd
brifysgol. Mi gwrddais â rhai artistiaid gwirioneddol garedig a dawnus yn ystod fy
mhreswyliad a dw i’n hynod ddiolchgar am yr holl anogaeth a hyder y mae Codi’r Bar
wedi’u rhoi i mi. Gobeithio bod fy ngwaith wedi’ch annog i blannu ychydig o flodau a
gofalu am y gwenyn.