Yn gyntaf oll, rwyf yn ddiolchgar iawn fy mod wedi cael y cyfle i gymryd rhan yng
ngweithdai ‘Codi’r Bar’ a roddodd yr hyder i mi i arbrofi mewn amrywiaeth o gyfryngau
ac yna gweithio yn y stiwdio dros yr haf. Mae wedi bod yn brofiad amhrisiadwy sydd
wedi rhoi rhwydd hynt i mi i arbrofi ar raddfa fwy a datblygu fy syniadau mewn
amgylchedd mor ysbrydoledig a chreadigol.

Roedd cael fy ngofod fy hun yn arbennig o fuddiol gan fy mod i’n symud i flwyddyn 13
ac mi ellais ddatblygu gwaith i’w ddefnyddio fel darnau gwaith cwrs ac arbrofi ymhellach
gyda phaent.

Mae gen i ddiddordeb cynyddol yn y cysyniad o haniaethu, lle o’r blaen dw i wedi
canolbwyntio’n bennaf ar fynegiant drwy’r ffurf ddynol ac mae’r profiadau dw i wedi’u
cael wedi rhoi’r hyder i mi i edrych ar hyn gyda mwy o sicrwydd.
Eleni mi fydda i’n canolbwyntio ar edrych ar ddirywiad mewn trefluniau pruddglwyfus a
ffydd. Yn y gwaith dw i wedi’i gynhyrchu hyd yma, dylanwadwyd arna i gan y ffordd y
mae Gerhard Richter yn defnyddio gwahanol offer i ddileu ei waith er mwyn cyflwyno
gwirionedd newydd ac i bwysleisio proses y gwaith y mae’n ei greu.