Ar ôl graddio gyda gradd yn y dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain yn 2011, erbyn
hyn mae gan Philip stiwdio gydag Oriel Elysium yn Heol y Coleg ac mae wedi
arddangos gwaith ar draws y wlad yn ogystal ag yn rhyngwladol.

Mae gwaith Philip yn edrych ar elfennau graffig mewn bywyd beunyddiol a sut y
gallant gael eu newid i sgiwio ein canfyddiad o’r byd rydyn ni’n byw ynddo.

Gosododd Philip y dasg gyntaf i’r dosbarth meistr sef rhoi cynnig ar gynhyrchu
lluniadau persbectif oedd yn cynnwys llinellau gorwel a diflanbwyntiau. Gan
ddefnyddio papur graff a phrennau mesur, dangosodd Philip sut y gall unrhyw siâp
gael ei droi’n 3D ac wedyn cyfarwyddo’r grŵp i droi eu siapiau’n adeiladau a’u
helaethu i ffurfio dinas.

Treuliwyd ail hanner y prynhawn yn gweithio mewn grwpiau gan adeiladu go iawn
gyda chardbord. Bu pob grŵp yn trafod syniadau ynglŷn â pha nodweddion roeddent
eu heisiau yn eu hadeiladau dychmygol a sut y gallent fynd ati gyda’r deunyddiau
oedd ar gael. Y cam olaf oedd gwisgo’r adeiladau â glaswellt ffug, coed, ffenestri a
phobl fychain.