Yn y dosbarth meistr hwn datblygodd myfyrwyr gynlluniau unigryw o dan y thema, “Y byd naturiol yn yr oes ddigidol”. Crëwyd y rhain o haenau o farciau, delweddau wedi’u sganio a photoshop. Wedyn, argraffwyd y cynlluniau ar sgwariau o ddefnydd ag argraffydd ffabrigau arbennig Coleg Gŵyr i greu samplau gorffenedig. Yn y sesiwn dylunio digidol bu’r myfyrwyr yn ymchwilio i siapiau’r byd naturiol drwy wneud marciau, printiau digidol a brodwaith digidol. Canlyniad eu hymdrechion yn y pen draw oedd sampl ddefnydd o brint 30cm x 30cm wedi’i haddurno â brodwaith ac appliqué tecstiliau. Bu’r dosbarth hwn yn rhoi patrwm arwyneb i’r myfyrwyr ond yn dangos haenau’r gwaith dylunio sy’n mynd at gynhyrchu defnyddiau a thecstiliau – o’r cysyniad i’r cynnyrch terfynol.

Am yr Artist

Darlithydd yw Kathryn Lewis yng Ngholeg Gŵyr y mae ei gwaith artistig yn troi o gwmpas patrymau arwyneb a thecstiliau.

Leave a Reply