Bu Lisa yn trafod ei hoffter o ddylunio theatr a sut bydd myfyrwyr yn ymgorffori’r thema yn y dosbarth meistr. Soniodd am sut, o fewn setiau llwyfan, yn aml bydd blaendir, canol a chefndir i greu dyfnder. Defnyddiodd y myfyrwyr haenau o wydr i greu gosodwaith bach a gofynnwyd iddynt dynnu hunanbortread ar y panel cyntaf. Mae hyn yn gosod y cywair ar gyfer cyfres o baneli sy’n eu hadlewyrchu – yn y canol maent i ddylunio rhywbeth sy’n bwysig iddynt ac yn y cefndir batrwm sydd yn eu tyb nhw yn eu symboleiddio nhw. Tasg gyntaf y diwrnod oedd gwneud model papur o’u cynllun. Mae hyn i’w galluogi i arbrofi gyda phersbectif. Y model hwn wedyn sy’n ffurfio’r sail ar gyfer eu paentiad gwydr. Rhoddwyd 3 phanel i’r myfyrwyr a, gan ddefnyddio paent gwyn, maent yn defnyddio “sgraffito” i ysgythru i’w lun.

Am yr Artist

Artist gwydr lliw proffesiynol yw Lisa Burkl ac yn ddarlithydd gwadd a hwylusydd celfyddyd gymunedol. Daw ei hysbrydoliaeth o symbolaeth, eiconograffeg, lliw, golau, adlewyrchu a thaflunio. Ymgymhwysodd Lisa mewn Gwydr Pensaernïol ym 1991 ac mae wedi gweithio ar brosiectau mewn prifysgolion, ysgolion, stiwdios preifat, orielau celf a chanolfannau cymunedol. Athrawes gymwysedig yw hi ac mae ei phrofiad yn cynnwys amrywiaeth eang o ffurfiau ar gelfyddyd, megis paentio ac arlunio, dylunio, tecstiliau a chelfyddydau gwydr pensaernïol.