Gan weithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Rheolwr Capital Arts, Heather Parnell, a PCDDS, fe wnaethon ni ddyfeisio gweithdy pwrpasol a fyddai’n esgor ar ganlyniadau ar gyfer y Ganolfan Iechyd ar ei newydd wedd ym Mhen-clawdd. Gan ystyried rheoliadau iechyd, penderfynon ni y byddai’r myfyrwyr yn creu teils enamel – dewiswyd y rhain oherwydd y gellir eu glanhau a’u cyflwyno’n hawdd. Mewn trafodaeth â’r ganolfan, penderfynwyd oherwydd ei lleoliad y byddai’r thema’n gysylltiedig â’r arfordir. Gosodwyd y darn olaf cyn ei hagor i’r cyhoedd.

Cyflwynodd Heather Parnell y briff i’r myfyrwyr gan ddangos delweddau o’r gofod yn yr adeilad lle byddai eu gwaith yn ymddangos. Arweiniwyd y myfyrwyr drwy’r broses ddylunio gan yr artist Catherine Brown a thrwy danio’r enamel gan Colin Telford. Cynhyrchodd y myfyrwyr tua 3 teilsen yr un gan gydweithio â Heather i guradu’r detholiad gorffenedig. O’r cyfle unigryw yma, dysgodd y myfyrwyr am yr agweddau ymarferol ar greu cywaith safle-benodol yn ogystal ag am y cyfleoedd a all ddod i ran artist gweithredol.

Am yr Artist

Yn yr achos yma roedd gynnon ni dri artist yn gweithio gyda’n myfyrwyr Criw Celf. Prosiect yw’r Celfyddydau mewn Iechyd sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac sy’n ymrwymedig i ddarparu profiad cadarnhaol i gleifion a hybu llesiant drwy gyfranogi o’r celfyddydau. Heather Parnell yw Rheolwr CapitalArts ac yn artist llawrydd y mae ei gwaith yn safle-ymatebol yn bennaf. Darlithydd yw Catherine Brown yn PCDDS y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar arbrofi gyda thechnegau cyfoes mewn gwydr a cherameg. Technegydd yw Colin Telford ar gyfer yr adran wydr yn PCDDS a chanddo brofiad gwerthfawr yn y diwydiant gwydr.