Criw Celf Cynradd 2019.

Artist a dylunydd-gwneuthurydd yw Anna Lewis sy’n byw yng Nghymru ac yn gweithio ym maes gemwaith a gwrthrychau ffasiwn cyfoes. Mae Anna hefyd yn cyfuno ei syniadau â ffotograffiaeth a ffilm. 

Mae Anna yn dechrau drwy ddangos enghreifftiau o ddeunyddiau ailadroddol i greu patrwm, ochr yn ochr â phopiau o liw a gwrthrychau sydd wedi’u huwchgylchu fel man cychwyn ar gyfer dylunio gemwaith.

Tasg gyntaf y myfyrwyr oedd arlunio gwrthrychau roeddent wedi’u dewis o drysorfa o ddeunyddiau a gwrthrychau. Arweiniwyd y grŵp gan Anna drwy gamau cychwynnol y broses ddylunio, fel sut i dynnu llinellau o wrthrych neu godi ar fanylion cynnil a’u gwneud yn nodwedd. Mae’r wal wedi’i gorchuddio â delweddau ysbrydoledig y mae Anna wedi’u casglu. Mae’r rhain yn dangos enghreifftiau cyfoes o ddarnau ffasiwn a gategoreiddir fel ‘celf wisgadwy‘ i annog y myfyrwyr i feddwl y tu hwnt i’r ffiniau arferol wrth gynllunio a dylunio eu darn gemwaith. 

Sefydlir gorsaf osod. Yn ystod y broses wneud, gall pob myfyriwr ofyn am gymorth neu syniadau o ran sut i osod elfennau wrth ei gilydd. Mae tyllau’n cael eu drilio a rhai rhannau ac eitemau’n cael eu llifio yn eu hanner, eu gludio a’u pinio i’w gilydd.

Mae’r dosbarth meistr yn gorffen gyda thynnu llun yn siop yr oriel o bob cyfranogwr yn gwisgo ei wrthrych ffasiwn gyda balchder.