Dosbarthiadau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Mae’r dosbarthiadau meistr a ddarperir i fyfyrwyr sy’n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu cyflwyno drwy Oriel Mission. Mae Oriel Mission yn cydweithio’n agos â Choleg Celf Abertawe, PCDDS, a Choleg Gŵyr ynghyd â chanolfannau celfyddydol eraill ar draws Abertawe i gynnal y sesiynau hyn.