Criw Celf y Gorllewin
Prosiect yw Criw Celf y Gorllewin sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau creadigol plant a phobl ifainc yng Nghymru sydd â doniau artistig. Bydd cyfranogwyr llwyddiannus yn cymryd rhan mewn gweithdai uwch a elwir yn Ddosbarthiadau Meistr sydd dan arweiniad artistiaid ac addysgwyr proffesiynol. Mae’r prosiect yn darparu ar gyfer myfyrwyr rhwng 9 a 18 oed sy’n amlygu talent mewn celfyddyd ac fe’i rhennir yn 4 grŵp oedran:
- Codi’r Bar, ar gyfer Lefel Uwch Atodol / Uwch.
- Portffolio, ar gyfer blynyddoedd ysgol 9, 10 ac 11
- Criw Celf Uwchradd, ar gyfer blynyddoedd ysgol 7 ac 8.
- Criw Celf Cynradd, ar gyfer blynyddoedd ysgol 5 a 6.
Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Criw Celf y Gorllewin yn gweithredu yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, gyda phob sir yn cynnig rhaglen bwrpasol.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan
Mae Criw Celf yn agored i unrhyw berson ifanc rhwng 9 a 18 oed sy’n amlygu gallu creadigol eithriadol ac sy’n frwd dros ddatblygu ei ddoniau mewn celfyddyd. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan unigolion ac ysgolion.
Dosbarthiadau Meistr a Theithiau
Mae pob cainc yn cynnwys cyfres o 5 nosbarth meistr o fewn amrywiaeth eang o feysydd, dan arweiniad artistiaid a dylunwyr sydd â phrofiad yn y maes. Dyma gyfle anhygoel i ddysgu ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ac ehangu’ch sgiliau artistig. Mae pob cainc hefyd yn cynnwys teithiau astudio i arddangosfeydd, stiwdios artistiaid a phrifysgolion ymhellach i ffwrdd.
Arddangosfa
Arddangosir y gwaith celf a gynhyrchir mewn arddangosfeydd mewn orielau a sefydliadau AU. Mae’r arddangosfeydd hyn yn cynnig y cyfle i gyfranogwyr i gael eu gwaith wedi’i guradu a’i arddangos mewn gofod proffesiynol.




Cysylltu
Oriel Mission
Ar gyfer Criw Celf Cynradd, Criw Celf Uwchradd, Portffolio a Codi’r Bar yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Megan Leigh
megan@missiongallery.co.ukOriel Mission, Gloucester Place, Yr Ardal Forol, Abertawe SA1 1TY
01792 652 016
missiongallery.co.uk
Oriel Myrddin
Ar gyfer Criw Celf Cynradd a Chriw Celf Uwchradd yn Sir Gaerfyrddin
Emma Baker
ejbaker@carmarthenshire.gov.ukOriel Myrddin, Lôn yr Eglwys, Caerfyrddin SA31 1LH
01267 222 775
orielmyrddingallery.co.uk
Ysgol Gelf Caerfyrddin @ Coleg Sir Gar
Ar gyfer Portffolio a Codi’r Bar yn Sir Gaerfyrddin
Saron Jones-Hughes
saron.jones-hughes@colegsirgar.ac.ukJobs Well Campus, Jobs Well Road, Carmarthen, SA31 3HY
01554 701 686
colegsirgar.ac.uk
Span Arts
Ar gyfer Criw Celf Cynradd yn Sir Benfro
Span Arts
info@span-arts.org.ukSpan Arts, Town Moor, Narberth, Pembrokeshire SA67 7AG
01834 869 323
span-arts.org.uk