Gall athrawon anfon ceisiadau grŵp ar gyfer hyd at 10 myfyriwr drwy gyflwyno delweddau digidol drwy e-bost, neu drefnu dangos portffolios gyda chyswllt eich prosiect lleol. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r cyswllt ar gyfer y prosiect yn eich ardal.
Manylion Cyswllt
Am bob ymholiad cysylltiedig â Chriw Celf Cynradd, Criw Celf Uwchradd, Portffolio a Codi’r Bar yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, cysylltwch â Megan Leigh yn Oriel Mission drwy e-bostio megan@missiongallery.co.uk neu ffonio 01792 652 016
Am bob ymholiad cysylltiedig â Chriw Celf Cynradd a Chriw Celf Uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch ag Emma Baker yn Oriel Myrddin drwy e-bostio ejbaker@carmarthenshire.gov.uk neu ffonio 01267 222 775
Am bob ymholiad cysylltiedig â Portffolio a Codi’r Bar yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â Saron Jones-Hughes yng Ngholeg Sir Gâr drwy e-bostio saron.jones-hughes@colegsirgar.ac.uk neu ffonio 01554 701 686.
Sesiynau Rhagflas
Fersiynau byrrach a mwy cryno o’r dosbarthiadau meistr sydd ar gynnig gyda Chriw Celf yw’r sesiynau rhagflas. Bydd ein hartistiaid yn ymweld â’ch ysgol gan ddarparu gweithdy ymarferol ym maes eu harbenigedd. Gellir hefyd cysylltu’r gweithdai yma ag unrhyw themâu yn eich modylau presennol. Ymhlith sesiynau blaenorol cafwyd dylunio gwydr, tecstiliau, cerameg a dylunio murluniau. Mae’r sesiynau yma am ddim. Rydyn ni hefyd yn darparu gweithgareddau ymestyn allan ychwanegol. Dewch i gysylltiad i gael gwybod mwy.



Tystebion Athrawon
Dyma ychydig dystebion gan athrawon yr ydyn ni wedi cydweithio â nhw.
Mae pob un o’n myfyrwyr wedi canmol yn arw y gweithdai, teithiau ac arddangosfeydd a ddarperir ac ar ôl siarad â’u rhieni, gallaf dystio i ba mor ddiolchgar y maent yn teimlo am yr effaith gadarnhaol nid yn unig ar brofiad eu plant o amrywiaeth eang o sgiliau ond hefyd ar eu hunanhyder a’u brwdfrydedd ynghylch y celfyddydau gweledol.
“Mae Criw Celf wedi cefnogi disgyblion artistig disglair a thros y blynyddoedd rydyn ni wedi llwyddo i roi cyfle i’n Disgyblion Mwy Galluog a Thalentog i barhau â’u profiadau dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth drwy fynychu rhaglen o brofiadau artistig wrth gydweithio ag artistiaid proffesiynol. Mae pawb sydd wedi mynychu’r gweithgareddau allgyrsiol hyn wedi eu mwynhau i’r eithaf”.
“Mae Criw Celf wedi cefnogi disgyblion artistig disglair a thros y blynyddoedd rydyn ni wedi llwyddo i roi cyfle i’n Disgyblion Mwy Galluog a Thalentog i barhau â’u profiadau dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth drwy fynychu rhaglen o brofiadau artistig wrth gydweithio ag artistiaid proffesiynol. Mae pawb sydd wedi mynychu’r gweithgareddau allgyrsiol hyn wedi eu mwynhau i’r eithaf”.