Blynyddoedd Ysgol
Safon AU ac U
I blant yn
Sir Gaerfyrddin
Trefnir gan
Ysgol Gelf Caerfyrddin @ Coleg Sir Gar
Am y Prosiect
Mae Codi’r Bar ar gyfer pobl ifainc sydd wedi dangos talent neu ddiddordeb arbennig mewn celf. Gall pobl ifainc o ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin, sy’n astudio ar gyfer Safon Uwch Atodol neu Uwch (neu gymhwyster cyfatebol, e.e. BTEC), wneud cais i ddod yn rhan o’r prosiect creadigol cyffrous yma yng Ngholeg Sir Gâr.
Dosbarthiadau Meistr, Teithiau ac Arddangosfeydd
Dros sawl sesiwn, bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid a dylunwyr proffesiynol, gan ymchwilio i amrywiaeth o dechnegau a sgiliau celf. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o glwb celf rheolaidd, gwneud ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg a dysgu sgiliau newydd. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys y cyfle i ymweld ag amgueddfeydd, stiwdios artistiaid a phrifysgolion.
Gwybodaeth Allweddol
- Cymryd rhan mewn 5 nosbarth meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.
- Ymweliadau ag arddangosfeydd, amgueddfeydd ac orielau.
- Profiad o weithio ochr yn ochr ag artistiaid a dylunwyr proffesiynol gyda chyfleoedd i glywed am eu dewisiadau gyrfa, rhannu gwybodaeth a gofyn cwestiynau.
- Cyfle i hybu eu creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau mewn amgylchedd cefnogol.
- Y cyfle i arddangos eu gwaith ar ddiwedd y rhaglen.
- Pecyn deunyddiau celf am ddim.
- Tystysgrif cyflawniad, wrth gwblhau’r rhaglen.




Am bwy rydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifainc sy’n astudio ar gyfer Safon Uwch Atodol / Uwch (neu gymhwyster cyfatebol, e.e. BTEC), sy’n dangos dawn greadigol ac am ddatblygu eu sgiliau ac ymchwilio i amrywiaeth o ddulliau artistig.
Athrawon ac Ysgolion
Gall pob ysgol enwebu hyd at 10 myfyriwr sy’n amlygu gallu eithriadol ym meysydd celfyddyd, crefft neu ddylunio. Gall athrawon anfon yr enwau fel un cais mawr ar y cyd. Am fwy o wybodaeth, ewch at: https://criwcelfwest.wales/cy/athrawon/
Sut i wneud cais
Am fanylion am sut i wneud cais, e-bostiwch Saron:
Saron.Jones-Hughes@colegsirgar.ac.uk
Ceir ffi gyfranogi o £40 i ymgeiswyr llwyddiannus y mae’n rhaid ei thalu er mwyn sicrhau eu lle. Mae cefnogaeth ariannol ar gael – cysylltwch â Saron am fwy o wybodaeth.
Angen ychydig o gymorth?
Os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch ag Saron ar Saron.Jones-Hughes@colegsirgar.ac.uk