Blynyddoedd Ysgol
Blynyddoedd 5 – 6
I blant yn
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Trefnir gan
Oriel Mission
Am y Prosiect
Mae Criw Celf Cynradd ar gyfer plant sydd wedi dangos talent neu ddiddordeb arbennig mewn celf. Gall plant o ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ym mlynyddoedd ysgol 5 a 6, wneud cais i ddod yn rhan o’r prosiect creadigol cyffrous yma yn Oriel Mission.
Dosbarthiadau Meistr, Teithiau ac Arddangosfeydd
Dros sawl sesiwn, bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid a dylunwyr proffesiynol, gan ymchwilio i amrywiaeth o dechnegau a sgiliau celf. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o glwb celf rheolaidd, gwneud ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg a dysgu sgiliau newydd. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys y cyfle i ymweld ag amgueddfeydd, stiwdios artistiaid a phrifysgolion.
Gwybodaeth Allweddol
- Cymryd rhan mewn 5 nosbarth meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol mewn
- amrywiaeth o ddisgyblaethau.
- Ymweliadau ag arddangosfeydd, amgueddfeydd ac orielau.
- Profiad o weithio ochr yn ochr ag artistiaid a dylunwyr proffesiynol gyda chyfleoedd
- i glywed am eu dewisiadau gyrfa, rhannu gwybodaeth a gofyn cwestiynau.
- Cyfle i hybu eu creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau
- mewn amgylchedd cefnogol.
- Y cyfle i arddangos eu gwaith ar ddiwedd y rhaglen.
- Pecyn deunyddiau celf am ddim.
- Tystysgrif cyflawniad, wrth gwblhau’r rhaglen.

Dosbarth meistr gwneud gemwaith â deunyddiau wedi’u huwchgylchu gydag Anna Lewis.

Dosbarth meistr pensaernïaeth gyda Phil Cheater.

Dosbarth meistr dylunio gwydr creadigol gyda Cath Brown.

Ymweliad ag Amgueddfa Caerdydd

Dosbarth meistr cerameg gyda Lyndon Davies
Am bwy rydyn ni’n chwilio?
Plant ym mlynyddoedd ysgol 5 neu 6, sy’n greadigol, yn ddychmygus ac yn frwd am gelfyddyd. Efallai eu bod nhw’n dwlu ar arlunio, paentio, gwneud marciau neu adeiladu ac o bosib yn treulio eu hamser yn dyfeisio cymeriadau, yn gwneud animeiddiadau neu’n tynnu ffotograffau. Dyma’r unigolion artistig bydden ni wrth ein boddau eu gweld yn gwneud cais i raglen Criw Celf Cynradd.
Athrawon ac Ysgolion
Gall pob ysgol enwebu hyd at 10 myfyriwr sy’n amlygu gallu eithriadol ym meysydd celfyddyd, crefft neu ddylunio. Gall athrawon anfon yr enwau fel un cais mawr ar y cyd. Am fwy o wybodaeth, ewch at: https://criwcelfwest.wales/cy/athrawon/
Sut i wneud cais
I wneud cais, lawrlwythwch a chwblhau’r ffurflen gais isod. Rydyn ni hefyd am weld enghreifftiau o’ch gwaith ynghyd â datganiad ysgrifenedig yn dweud wrthon ni pam rydych chi am gymryd rhan.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 26 Chwefror 2020.
Gall ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau eu lle drwy dalu’r ffi gyfranogi o £40. Mae cefnogaeth ariannol ar gael: https://criwcelfwest.wales/cy/cymorth-ariannol/
Angen ychydig o gymorth?
Os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch ag Megan Leigh ar megan@missiongallery.co.uk