Criw Celf Cynradd

For School Years

Blynyddoedd 5 – 6

For Children In

Sir Benfro

Organised By

Span Arts

Am y Prosiect

Mae Criw Celf Cynradd ar gyfer plant sydd wedi dangos talent neu ddiddordeb arbennig mewn celf. Gall plant sy’n byw yn Sir Benfro, ym mlynyddoedd ysgol 5 a 6, wneud cais i ddod yn rhan o’r prosiect creadigol cyffrous yma yn Span Arts.

Dosbarthiadau Meistr, Teithiau ac Arddangosfeydd 

Over several sessions, participants will have the opportunity to enjoy masterclasses led by professional artists and designers, exploring a range of art techniques and skills. This is an amazing opportunity to be part of a regular art club, make new friends with similar interests and learn new skills. Within the programme is also the opportunity to visit museums, artist studios, and universities.Successful applicants will develop their skills through:

Gwybodaeth Allweddol

  • Cymryd rhan mewn 5 nosbarth meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol mewn
  • amrywiaeth o ddisgyblaethau.
  • Ymweliadau ag arddangosfeydd, amgueddfeydd ac orielau.
  • Profiad o weithio ochr yn ochr ag artistiaid a dylunwyr proffesiynol gyda chyfleoedd
  • i glywed am eu dewisiadau gyrfa, rhannu gwybodaeth a gofyn cwestiynau.
  • Cyfle i hybu eu creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau
  • mewn amgylchedd cefnogol.
  • Y cyfle i arddangos eu gwaith ar ddiwedd y rhaglen.
  • Pecyn deunyddiau celf am ddim.
  • Tystysgrif cyflawniad, wrth gwblhau’r rhaglen.

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Plant ym mlynyddoedd ysgol 5 neu 6, sy’n greadigol, yn ddychmygus ac yn frwd am gelfyddyd. Efallai eu bod nhw’n dwlu ar arlunio, paentio, gwneud marciau neu adeiladu ac o bosib yn treulio eu hamser yn dyfeisio cymeriadau, yn gwneud animeiddiadau neu’n tynnu ffotograffau. Dyma’r unigolion artistig bydden ni wrth ein boddau eu gweld yn gwneud cais i raglen Criw Celf Cynradd.

Athrawon ac Ysgolion

Gall pob ysgol enwebu hyd at 10 myfyriwr sy’n amlygu gallu eithriadol ym meysydd celfyddyd, crefft neu ddylunio. Gall athrawon anfon yr enwau fel un cais mawr ar y cyd. Am fwy o wybodaeth, ewch at: https://criwcelfwest.wales/cy/athrawon/

 

Sut i wneud cais.

Am fanylion am sut i wneud cais, e-bostiwch Span Arts

span-arts.org.uk

Ceir ffi gyfranogi o £40 i ymgeiswyr llwyddiannus y mae’n rhaid ei thalu er mwyn sicrhau eu lle. Mae cefnogaeth ariannol ar gael – cysylltwch ag Span Arts am fwy o wybodaeth.

Angen ychydig o gymorth?

Os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch ag info@span-arts.org.uk