For School Years
Blynyddoedd 7 – 8
I blant yn
Sir Gaerfyrddin
Trefnir gan
Oriel Myrddin
Am y prosiect
Mae Criw Celf Uwchradd ar gyfer plant sydd wedi dangos talent neu ddiddordeb arbennig mewn celf. Gall plant sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, ym mlynyddoedd ysgol 7 a 8, wneud cais i ddod yn rhan o’r prosiect creadigol cyffrous yma yn Oriel Myrddin.
Dosbarthiadau Meistr, Teithiau ac Arddangosfeydd
Dros sawl sesiwn, bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid a dylunwyr proffesiynol, gan ymchwilio i amrywiaeth o dechnegau a sgiliau celf. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o glwb celf rheolaidd, gwneud ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg a dysgu sgiliau newydd. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys y cyfle i ymweld ag amgueddfeydd, stiwdios artistiaid a phrifysgolion. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu eu sgiliau drwy.
Gwybodaeth Allweddol
- Cymryd rhan mewn 5 nosbarth meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.
- Ymweliadau ag arddangosfeydd, amgueddfeydd ac orielau.
- Profiad o weithio ochr yn ochr ag artistiaid a dylunwyr proffesiynol gyda chyfleoedd i glywed am eu dewisiadau gyrfa, rhannu gwybodaeth a gofyn cwestiynau.
- Cyfle i hybu eu creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau mewn amgylchedd cefnogol.
- Y cyfle i arddangos eu gwaith ar ddiwedd y rhaglen.
- Pecyn deunyddiau celf am ddim.
- Tystysgrif cyflawniad, wrth gwblhau’r rhaglen.





Am bwy rydyn ni’n chwilio?
Plant ym mlynyddoedd ysgol 7 neu 8, sy’n greadigol, yn ddychmygus ac yn frwd am gelfyddyd. Efallai eu bod nhw’n dwlu ar arlunio, paentio, gwneud marciau neu adeiladu ac o bosib yn treulio eu hamser yn dyfeisio cymeriadau, yn gwneud animeiddiadau neu’n tynnu ffotograffau. Dyma’r unigolion artistig bydden ni wrth ein boddau eu gweld yn gwneud cais i raglen Criw Celf Uwchradd.
Athrawon ac Ysgolion
Gall pob ysgol enwebu hyd at 10 myfyriwr sy’n amlygu gallu eithriadol ym meysydd celfyddyd, crefft neu ddylunio. Gall athrawon anfon yr enwau fel un cais mawr ar y cyd. Am fwy o wybodaeth, ewch at: https://criwcelfwest.wales/cy/athrawon/
Sut i wneud cais.
Am fanylion am sut i wneud cais, ewch i wefan Oriel Myrddin.
https://www.orielmyrddingallery.co.uk/criw-celf-22-cymraeg
Eleni rydym yn gweithredu cynllun talu-beth-gallwch o £10, £15, £20 neu £25 ar gyfer y rhaglen gyfan, bydd y ffi hon yn cynnwys holl ddeunyddiau’r gweithdy.
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2022
Angen ychydig o gymorth?
Os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch ag Oriel Myrddin ar orielmyrddin@gmail.com