Tystebion

Amser gorau fy mywyd hyd yn hyn! Dysgais i shwt gymaint – ces i fy ysbrydoli gan yr holl bobl o’m cwmpas. Diolch yn fawr i bawb!

Un o gyfranogwyr Criw Celf Uwchradd

Roedd y gweithdai yn y prifysgolion yn gymaint o hwyl ac yn hynod ddefnyddiol wrth helpu i benderfynu i ba brifysgol i fynd.

Un o gyfranogwyr Codi’r Bar

Ro’n i wrth fy modd yn dysgu llwythi o ddulliau a sgiliau artistig newydd ro’n i heb eu profi o’r blaen – ond mae hefyd wedi bod yn dipyn o hwyl a dw i wedi gwneud ffrindiau newydd.

Un o gyfranogwyr Portffolio

Y peth gorau am Griw Celf yw gwneud ffrindiau newydd! Ro’n i hefyd yn dwlu ar ba mor gyfeillgar yw pawb. Amgylchedd gwych yw e!

Un o gyfranogwyr Criw Celf Uwchradd

Drwy weithdai Criw Celf, mae ein disgyblion yn cael profiadau ehangach yn y celfyddydau mynegiannol. Mae ein plant yn dysgu bod yn greadigol a’u mynegi eu hunain mewn gwahanol ffyrdd, gan ddatblygu gwerthfawrogiad o arferion a thechnegau artistig a diwylliannol.

Cerian Appleby, Arweinydd Celfyddydau Mynegiannol, Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff

Does dim modd rhoi gwerth ar y fath gyfle i bobl ifainc ymestyn eu profiad o’r Celfyddydau Creadigol yn yr ysgol ac i fedru gweithio gydag oriel uchel ei pharch ac artistiaid proffesiynol. O ran unigolion, profiad pleserus iawn yw gweld y datblygiad yn eu sgiliau creadigol, eu hunan-barch a’u hymdeimlad â llesiant sydd wedi deillio o’u hymwneud â’r rhaglen hon.

Charlotte Lewis, Pennaeth Celf, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt