Oriel Mission
Mae Oriel Mission yn rhedeg Criw Celf ar gyfer yr holl grwpiau oedran a nodir uchod – Criw Celf Cynradd (Blynyddoedd ysgol 5-6), Criw Celf Uwchradd (Blynyddoedd ysgol 7-8), Portffolio (Blynyddoedd ysgol 9-11) a Chodi’r Bar (myfyrwyr Safon UG/Uwch). I bob grŵp cynhelir pum nosbarth meistr sy’n cael eu dysgu gan artistiaid/ dylunwyr proffesiynol, mewn amrywiaeth o feysydd celfyddyd a dylunio. Mae Mission Gallery hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan roi mynediad i gyfranogwyr i offer a chyfleusterau o’r radd flaenaf. O fewn pob rhaglen bydd myfyrwyr yn ymweld â stiwdios artistiaid ac arddangosfeydd mewn mannau eraill – yn ogystal ag arddangosfa wedi’i churadu’n broffesiynol naill ai yma yn Mission Gallery neu mewn canolfannau diwylliannol/artistig eraill ar draws Abertawe. Mae’r arddangosfeydd hyn yn dangos y corff gwaith a grëir gan y myfyrwyr ar y rhaglen. Mae Mission Gallery yn recriwtio’r myfyrwyr mwyaf galluog a dawnus o ysgolion yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
*Mae cyllid ar gael i’r rheini all gael anhawster wrth dalu ffi’r prosiect. Cysylltwch â ni am fanylion.