Portffolio

Blynyddoedd Ysgol

Blynyddoedd 9, 10 & 11

I bobl ifainc yn

Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Trefnir gan

Oriel Mission

Am y Prosiect

Mae Portffolio ar gyfer pobl ifainc sydd wedi dangos talent neu ddiddordeb arbennig mewn celf. Gall pobl ifainc o ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ym mlynyddoedd ysgol 9, 10 ac 11, wneud cais i ddod yn rhan o’r prosiect creadigol cyffrous yma yn Oriel Mission.

Dosbarthiadau Meistr, Teithiau ac Arddangosfeydd 

Dros sawl sesiwn, bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid a dylunwyr proffesiynol, gan ymchwilio i amrywiaeth o dechnegau a sgiliau celf. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o glwb celf rheolaidd, gwneud ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg a dysgu sgiliau newydd. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys y cyfle i ymweld ag amgueddfeydd, stiwdios artistiaid a phrifysgolion. 

Gwybodaeth Allweddol

  • Cymryd rhan mewn 5 nosbarth meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol mewn
  • amrywiaeth o ddisgyblaethau.
  • Ymweliadau ag arddangosfeydd, amgueddfeydd ac orielau.
  • Profiad o weithio ochr yn ochr ag artistiaid a dylunwyr proffesiynol gyda chyfleoedd
  • i glywed am eu dewisiadau gyrfa, rhannu gwybodaeth a gofyn cwestiynau.
  • Cyfle i hybu eu creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau
  • mewn amgylchedd cefnogol.
  • Y cyfle i arddangos eu gwaith ar ddiwedd y rhaglen. 
  • Pecyn deunyddiau celf am ddim.
  • Tystysgrif cyflawniad, wrth gwblhau’r rhaglen.

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydyn ni’n chwilio am bobl ifainc ym mlynyddoedd ysgol 9, 10 ac 11 sy’n amlygu talent greadigol ac sydd am ddatblygu eu sgiliau ac ymchwilio i amrywiaeth o ddulliau artistig.

Athrawon ac Ysgolion

Gall pob ysgol enwebu hyd at 10 myfyriwr sy’n amlygu gallu eithriadol ym meysydd celfyddyd, crefft neu ddylunio. Gall athrawon anfon yr enwau fel un cais mawr ar y cyd. Am fwy o wybodaeth, ewch at: https://criwcelfwest.wales/cy/athrawon/

 

Sut i wneud cais

I wneud cais lawrlwythwch a chwblhau’r ffurflen gais isod. Rydyn ni hefyd am weld enghreifftiau o’ch gwaith ynghyd â datganiad ysgrifenedig yn dweud wrthon ni pam rydych chi am gymryd rhan.

Ar hyn o bryd mae ceisiadau ar gau.

Gall ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau eu lle drwy dalu’r ffi gyfranogi o £40. Mae cefnogaeth ariannol ar gael: https://criwcelfwest.wales/cy/cymorth-ariannol/

Angen ychydig o gymorth?

Os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch ag  Megan Leigh ar megan@missiongallery.co.uk